Mannau hanesyddol eraill i ymweld â nhw


Mannau Hanesyddol


Yn wreiddiol, Pontrhydfendigaid (y ‘bont wrth y rhyd fendigaid’) oedd y pentref a grëwyd gan Abaty Ystrad Fflur i letya’r gweithwyr ar ei diroedd gerllaw. Safai hwn i ogledd pont yr afon rhwng y ddwy dafarn, y Llew Coch a Du sy’n parhau â thraddodiad mawr yr Abaty i ddarparu lletygarwch i deithwyr. Ehangodd y pentref yn y 19eg ganrif yn ystod twf mewn mwyngloddio plwm ac mae llawer o fythynnod y mwyngloddwyr yn parhau i fodoli. Ceir hefyd sawl capel mawr a oedd yn bwysig, ac sy’n parhau i fod yn bwysig i fywyd y cymunedau hynny. Nid yw’r wefan yn cynnwys unrhyw fanylion o’r hanes hwn, ond mae’r pentref serch hynny, yn werth cerdded o’i gwmpas.

Mae Tregaron yn dref farchnad hanesyddol i gyfeiriad y de o Ystrad Fflur ac yn yr Oesoedd Canol, hwn oedd canolfan Arglwyddiaeth Caron. Saif y craidd hanesyddol o gwmpas y sgwâr o flaen Gwesty’r Talbot, gyda’i eglwys blwyf o’r 13eg ganrif ar yr ymyl ddeheuol. Mae’r Talbot a’r eglwys yn adeiladau hanesyddol y mae’n werth ymweld â nhw. Ehangodd y dref, fel Pontrhydfendigaid, yn y 19eg ganrif ac mae’n dathlu ei chysylltiad hir â mwyngloddio hynafol yng Nghanolfan Aur Rhiannon, lle gellir gweld gemwaith modern ochr yn ochr ag arddangosfa o gelfyddyd Geltaidd sy’n ffurfio’r ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith Rhiannon ei hun.

Mae Llanddewi Brefi yn bentref prydferth gydag eglwys wych yn y canol. Mae’r strwythur presennol, sy’n dyddio i’r 12fed ganrif, ar safle lle sy’n enwog yn stori nawdd sant Cymru, Dewi Sant. Mae’r eglwys, a arferai fod yn fynachlog Geltaidd gynnar mwy na thebyg, yn cynnwys sawl cofeb sy’n dyddio i gyfnod cyn-Normanaidd Cristnogaeth (oddeutu 600-1100 O.C).

Mae Llanbedr Pont Steffan yn dref oesoedd canol hanesyddol sy’n cynnwys heddiw un o gampysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd y campws hwn fel sefydliad hynaf addysg uwch yng Nghymru, ar ôl iddo gael ei sefydlu ym 1822. Mae ei Adeilad Dewis Sant yn adeilad rhestredig Gradd I ac mae ganddo lawer o nodweddion cain: argymhellir taith gerdded o gwmpas ei dir ac i mewn i’w bedrongl hanesyddol. Ei gysylltiad ag Ystrad Fflur yw bod ei Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg wedi dechrau Prosiect presennol Ystrad Fflur. Yn Llanbedr Pont Steffan hefyd, mae’r Welsh Quilt Centre lle mae modd gweld casgliad godidog o gwiltiau hanesyddol, a gasglwyd gan y Jen Jones rhyfeddol, ochr yn ochr ag arddangosfeydd eraill.

Mae eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, ger Aberaeron ar arfordir Ceredigion yn em bensaernïol gan John Nash, y pensaer cyfnod Rhaglywiaeth enwog. Mae ganddo dir a pharcdir helaeth, wedi’u hadnewyddu gyda theithiau cerdded coetir prydferth ar hyd Afon Aeron.

Eiddo arall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn nyffryn Afon Cothi yw Mwyngloddiau Aur Dolaucothi sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Rhufeinig. Cloddiwyd aur o’r fan hon hefyd yn ystod adeg Abaty Ystrad Fflur ac ymlaen i’r 20fed ganrif, a heddiw mae gwaith dan y ddaear yn gwneud ymweliad rhyfeddol i’r teulu oll.

Mae Aberaeron yn dref glan môr brydferth ar arfordir Bae Ceredigion a grëwyd i ddarparu harbwr diogel i longau arfordirol ym 1807. O ran pensaernïaeth, mae ganddi uniondeb a ffurfiwyd gan sawl stryd o dai teras y cyfnod Rhaglywiaeth, y mae llawer ohonynt wedi’u peintio yn y lliwiau oedd yn boblogaidd ar y pryd. Mae’r lleoliad cyfan o gwmpas yr harbwr, sydd bellach yn farina gan mwyaf, yn drawiadol. Cynhelir sawl digwyddiad yn y dref ac mae’n enwog am ei lletygarwch a’i bwyd da.

I gyfeiriad y gogledd o Ystrad Fflur, ac yn gysylltiedig â’i ymwneud hir â mwyngloddio, mae safle Mwyngloddiau Arian-Plwm Llywernog, sydd bellach ar agor i’r cyhoedd fel y Silver Mountain Experience. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau tanddaearol.

I’r sawl a chanddynt ddiddordeb mewn adeiladau hanesyddol, mae hen eglwysi plwyf y rhanbarth yn werth ymweld â nhw. Mae llawer wedi’u codi ar safleoedd llawer hŷn o gyfnod cyn-Normanaidd Cristnogaeth Geltaidd. Ceir hefyd nifer fawr o gapeli Anghydffurfiol, rhai ohonynt gyda rhannau pwysig i’w chwarae yn stori genedlaethol Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth sylfaenol am bob un ohonynt ar wefan Llwybr Ffydd Ceredigion. Nodir yn arbennig Soar-y-Mynydd, Llangeitho a Llanddewi Brefi.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration