Hanes Ystrad Fflur

Mae’r dirwedd o gwmpas Ystrad Fflur yn cadw llawer o olion o’i hanes hir a’i gynhanes. Mae’r stori’n dechrau’n fuan ar ôl diwedd Oes yr Iâ diwethaf rhyw 14000 o flynyddoedd yn ôl ac yn ystod yr hyn y mae archeolegwyr yn ei alw’n Oes Fesolithig neu Ganol Oes y Cerrig. Ar yr adeg hon, gadawodd yr iâ a doddodd yn ardal Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru lyn a ddatblygodd yn Gors Caron yn y pen draw a datgelodd broffil siâp U dyffryn Teifi uwch. Roedd y bodau dynol cyntaf yn fandiau bach o helwyr Mesolithig yn chwilio am helgig yn y coetir sy’n gyflym atgynhyrchu, gan weithio o’u prif wersylloedd ar hyd arfordir deheuol Bae Ceredigion.

Dechreuodd bobl ymgartrefu i glirio’r coed a dechrau ffermio yn yr oes Neolithig ddiweddarach (yr oes Garreg newydd) neu ar ddechrau’r Oes Efydd rhyw 4-5000 o flynyddoedd yn ôl. Yn agos at darddle Afon Glasffrwd sydd heddiw’n rhedeg tua cyfeiriad y de i safle’r Abaty, mae cymhlyg mawr o gofebion o’r cyfnod hwn, gan gynnwys tomenni claddu neu garneddau. Erbyn Oes yr Haearn, a ddechreuodd ryw 2500 o flynyddoedd yn ôl, roedd y dirwedd yn dechrau edrych yn llawer mwy fel mae’n ei wneud heddiw gyda’r rhan fwyaf o’r coetir wedi’i glirio i ffwrdd a’i drawsnewid yn ffermdir ar loriau a llechweddau’r dyffryn, yn gymysg gyda ffermydd gwasgaredig. Ar yr ucheldiroedd, roedd corsydd mawn a’r porfeydd garw helaeth ar gyfer gwartheg a reolwyd gan fagwyrydd mawr wedi’u hamddiffyn neu fryngaerau fel Pen-y-Bannau sy’n edrych dros Bontrhydfendigaid a’r Abaty o’r gogledd.

Yn ystod y cyfnod Rhufeinig (70-410 O.C), nid oedd llawer wedi newid yn y gymdeithas Geltaidd leol ond roedd y Rhufeiniaid eu hunain yn gyrru ar ffyrdd milwrol, fel Sarn Helen, ar draws ucheldiroedd Cymru, yn aml rhwng mannau lle gellid dod o hyd i ddyddodion mwynol gwerthfawr, yn enwedig aur, arian a phlwm. Yn y canrifoedd dilynol (5ed i 11eg), ailsefydlodd brenhinoedd Cymru a rheolwyr lleol batrwm bywyd brodorol, gyda Christnogaeth yn cyrraedd yn y 6ed ganrif ar ffurf safleoedd mynachaidd bach, gan adael cerrig addurnedig sydd dal i’w gweld mewn eglwysi a mynwentydd plwyf lleol, fel Llangwnnws.

Delw’r Arglwydd Rhys ap Gruffudd

Erbyn diwedd yr 11eg ganrif, roedd y Normaniaid wedi dechrau gwthio i mewn i’r rhan hon o’r byd ac roeddent yn rheoli tywysogaeth hynafol Cymru, Ceredigion. Yn wir, sefydlwyd Ystrad Fflur am y tro cyntaf ym 1164 gan y marchog Eingl-normanaidd, Robert Fitzstephen, ond ymhen blwyddyn, gwaharddwyd y Normaniaid o Geredigion gan yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth. Ym 1165, cadarnhaodd Rhys ei fod yn rhoi Ystrad Fflur a’r tiroedd o’i amgylch i fynachod Sistersaidd Hendy-gwyn ar Daf a sefydlodd Abaty newydd ac a aethant ati i droi’r hen fyd Celtaidd yn dirwedd llawer mwy cynhyrchiol, gan gyflwyno ffyrdd newydd, Ewropeaidd o wneud pethau, gan gynnwys technolegau grym dŵr.

Saif Ystrad Fflur mewn dyffryn bach ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Cambria, i gyfeiriad y gogledd o Dregaron. Mae’n fan dwyfol dros ben, efallai o adeg cyn cyrhaeddodd y Sistersiaid, ond yn sicr hyd yn oed ar ôl iddynt adael, ac mae’n dal i fod yn ffynhonnell hiraeth grymus yn emosiwn ac ysbryd Cymru heddiw. Efallai oherwydd hyn ac oherwydd ei gymwynaswr brenhinol o Gymru, daeth Ystrad Fflur yn ganolfan ideoleg gynyddol o Gymreictod yn gyflym ac, o etifeddu rhai o draddodiadau eglwys cyn Normanaidd, creodd lawysgrifau yn y Gymraeg, gan gynnwys hanes Cymru gynnar, sef Brut y Tywysogion (a ddechreuwyd yn Llanbadarn Fawr) ac a gefnogodd y celfyddydau llenyddol a cherfluniol.

Roedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn un o nifer o fynachlogydd o’r urdd Sistersaidd o fynachod a sefydlwyd yn Pura Wallia, y tiroedd dan reolaeth tywysogion ac arglwyddi pwerus Cymru yn y ddeuddegfed ganrif. Cafwyd ysbrydoliaeth yr urdd trwy’r symudiad mawr a ddechreuodd yn Cîteaux yn Burgundy ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Daliodd adferiad y Sistersiaid i asgetigiaeth Rheol Sant Benedict, ceisio mannau gwastraff y byd, a’i alwad am hunangynhaliaeth Gristnogol trwy ora et labor (gweddi a gwaith), ddychymyg Cristionogaeth y Gorllewin. Roedd hyn yn hynod wir am Gymru lle'r oedd ataliad a diwygiad traddodiadau tebyg y fynachlog Geltaidd cyn-Normanaidd yn dal i fod yn ffres yn y cof.

Mae’n debygol i’r adeiladau cyntaf a grëwyd gan fynachod Hendygwyn ar Daf gael eu hadeiladu ar safle sy’n parhau i gael ei alw’n Henfynachlog heddiw, ychydig gilometrau i’r de-orllewin. Mae union leoliad yr adeiladau hyn yn anhysbys, ond ym 1184, rhoddodd yr Arglwydd Rhys grantiau newydd i’r Abaty ar anterth ei rym, a chynlluniwyd a dechreuwyd y fynachlog ar y safle lle bodola heddiw. Ym 1201, cysegrodd y mynachod y fynachlog newydd yn ffurfiol a symudasant i’r cymhlyg gorffenedig o adeiladau.

Gellir gweld cynllun yr Abaty newydd yn yr ailwneuthuriad ar ffurf peintiad gan Chris Jones-Jenkins. Fe’i rhannwyd yn ddwy brif ardal, caeedig: y Caeadle Mewnol a oedd yn cynnwys yr holl brif adeiladau mynachaidd (blaendir); a’r Caeadle Allanol a ddefnyddiwyd yn bennaf ar gyfer amaethu a dibenion eraill, gan gynnwys ysbyty i wahangleifion o bosibl.

 (c) University of Wales Trinity St David



Roedd pedwar gât: y Brif Gât rhwng y caeadleoedd Mewnol ac Allanol a gloddiwyd yn ystod y Prosiect presennol; gât orllewinol allanol ar y ffordd nôl i Bontrhydfendigaid; Gât y Gogledd a roddodd fynediad i Lwybr y Mynaich dros Fynyddoedd y Cambria i chwaer Abaty Cwmhir; a Gât y De lle rhedodd ffordd fynydd arall drwyddi tuag at Lanymddyfri a’r Epynt.

Roedd y prif adeiladau yn y Caeadle Mewnol yn cynnwys Eglwys yr Abaty ei hun a chlwysty (neu ardd neilltuedig) i’r de, lle trefnwyd y canlynol o’u hamgylch: Tŷ’r Siapter (at ddibenion gweinyddu a thrafod); y Tŷ Cynhesu (lle gallai’r mynachod hŷn a mwy eiddil gael lloches yn ystod y misoedd oerach); y Ffreutur (lle'r oedd y mynachod yn bwyta; mae rhannau ohono wedi goroesi yn y ffermdy sydd ar y safle heddiw), y Ceginau; a Chynllun y Gorllewin (oedd yn cynnwys stordai ac ystafelloedd cysgu'r Mynachod Lleyg a wnaeth swmp y gwaith llafur ar diroedd yr Abaty fel mwyngloddwyr, adeiladwyr, coedwigwyr, cowmyn, ffermwyr a pheirianwyr). Mae gweddillion llawer o’r adeiladau craidd hyn yn ffurfio safle ymwelwyr Cadw.

Tudalen o Brut y Tywysogion

Rhwng ale groes de’r eglwys a Thŷ’r Siapter mae ystafell gul lle credwn fod y mynachod wedi cadw’u llyfrau a’u llawysgrifau gwerthfawr wedi’u hysgrifennu ar felwm. Gwnaed llawer o’r rhain â llaw gan y mynachod eu hunain, o bosibl ar ddesgiau wedi’u gosod yn y rhodfa â gorchudd o gwmpas ymyl y clwystai. Heddiw, mae sawl llawysgrif bwysig o’r oesoedd canol yn parhau i oroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a allai fod wedi’u creu yn Ystrad Fflur, gan gynnwys y llawysgrif bwysig Brut y Tywysogion , hanes cyntaf Cymru yn y Gymraeg.

Rhwng ale groes de’r eglwys a Thŷ’r Siapter mae ystafell gul lle credwn fod y mynachod wedi cadw’u llyfrau a’u llawysgrifau gwerthfawr wedi’u hysgrifennu ar felwm. Gwnaed llawer o’r rhain â llaw gan y mynachod eu hunain, o bosibl ar ddesgiau wedi’u gosod yn y rhodfa â gorchudd o gwmpas ymyl y clwystai. Heddiw, mae sawl llawysgrif bwysig o’r oesoedd canol yn parhau i oroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a allai fod wedi’u creu yn Ystrad Fflur, gan gynnwys y llawysgrif bwysig Brut y Tywysogion , hanes cyntaf Cymru yn y Gymraeg.


Hyd yn oed cyn 1184, daeth eglwys yr Abaty’n fan claddu i aelodau teulu brenhinol y Deheubarth. Aeth hyn ymlaen ar ôl 1184 a mwy na thebyg daethpwyd â’r claddedigaethau hŷn i’r safle newydd lle cawsant eu marcio gan gerrig wedi’u cerfio mewn gwaith celf Geltaidd. Gellir parhau i weld y rhain yn y gornel rhwng Côr yr Eglwys ac Ale Groes y De.

Roedd yr adeiladau eraill roeddem yn eu hadnabod yn y Caeadle Mewnol yn cynnwys: Ysbyty (lle'r oedd y mynachod sâl a hŷn yn ogystal â rhai aelodau breintiedig o’r gymuned leyg yn cael gofal mewn cymhlyg mynachlog fach yn y fynachlog ei hun); Tŷ’r Abad; a dwy felin yr oedd o leiaf un ohonynt yn efail haearn. Tynnodd y system ddŵr, oedd yn cyflenwi’r pŵer ar gyfer y melinau hyn yn ogystal ag yn cael ei defnyddio yn y rhan fwyaf o brif adeiladau’r abaty, oddi ar Afon Glasffrwd i’r de ac roedd yn cynnwys pyllau a ffrydiau. Mae llawer o’r system hon yn parhau i oroesi fel cloddwaith.


Roedd anterth Ystrad Fflur ar ddiwedd y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, cyn i Gymru gael ei llorio gan Edward I o Loegr. Yn ystod yr adeg hon, sefydlodd ei enw da mewn sgolastigiaeth ac ymlyniad gwleidyddol ac fel canolfan iachâd a lles ysbrydol. Cafodd yr Abaty ei dal i fyny yn y gwrthdaro rhwng brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru, ac fe’i llosgwyd a’i meddiannwyd sawl gwaith. Un o’r prif ddigwyddiadau oedd pan gymerodd byddin Lloegr, pan oeddent ar drywydd Owain Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif, dros yr Abaty a dinistrio llawer o’i adeiladau yn y broses. Yn ei hanfod, fodd bynnag, o ddiwedd y 13eg ganrif ymlaen, roedd mewn rhyw gyflwr o ddirywiad drwy’r amser, ond goroesodd mewn un darn fel un o’r tai mynachaidd mwyaf hyd nes Diddymiad y Mynachlogydd ym 1539. Erbyn i hyn ddigwydd, dim ond llond dwrn o fynachod oedd yn parhau i gynnal traddodiadau’r urdd Sistersaidd. Ar ôl hynny, cymerodd Syr Richard Devereux dros ei diroedd yn y lle cyntaf, ac yna’n raddol fe’i cymerwyd drosodd gan y teuluoedd bonedd lleol.

Hwyrach i’r teulu Stedman, a brydlesodd yn y lle cyntaf ac wedyn a brynodd yr Abaty ei hun a rhai o’i diriogaethau, fod yn swyddogion i Iarlloedd Essex Devereux yn wreiddiol, ond cawsant eu hintegreiddio’n fuan o fewn rhwydweithiau’r bonedd lleol. Y Stedmans adeiladodd blas neu blasty Mynachlog Fawr o weddillion Ffreutur yr Abaty a phasiwyd hyn yng nghanol y 18fed ganrif i’r teulu Powell o Nanteos ac yn nes ymlaen i’r teulu Vaughan o Drawscoed, ac yn olaf i’r teulu Arch, y perchnogion presennol. Aeth yr eglwys a’r clwysty’n adfail ac erbyn y 1800au, dim ond drws y gorllewin oedd modd ei adnabod o hyd. Oddeutu’r amser hyn, cloddiwyd safle Eglwys a Chlwystai’r Abaty gan Stephen Williams, peiriannydd rheilffordd, a chanfuwyd bod llawer o’r waliau a’r lloriau teils wedi goroesi. Ym 1931, fe’i cymerwyd i Warcheidiaeth y Goron i sicrhau ei gadwraeth ac mae bellach yng ngofalCadw ar ran Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd adroddiadau byrion o’r safle yn 1936 a 1951.



Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration