Hafan

Ystrad Fflur: Lle hardd llawn hanes

Mae hanes cryno Ystrad Fflur yn dweud wrthym mai safle hen fynachlog Sistersaidd ydyw a oedd o bwysigrwydd dirfawr i Gymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Hyd yn oed heddiw mae gan y lle, ei hanes hir a’i dirweddau arwyddocâd mawr i bobl Cymru a’u diwylliant.

Mae adfeilion ei eglwys a rhan o’r clwystai a ddiogelwyd yng ngofal Cadw, asiantaeth dreftadaeth Llywodraeth Cymru, ac mae modd i’r cyhoedd ymweld â nhw. Dyma leoliad Prosiect Ystrad Fflur hefyd lle caiff gwaith ymchwil, cadwraeth a datblygu ei gyflawni gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn dilyn gwaith gan archeolegwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
Adluniad wedi’i baentio gan Chris Jones-Jenkins o gaeadle cyfan yr Abaty o gyfeiriad y dwyrain fel y byddai wedi edrych tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg
Adluniad wedi’i baentio gan Chris Jones-Jenkins o gaeadle cyfan yr Abaty o gyfeiriad y dwyrain fel y byddai wedi edrych tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg
Cliciwch am ddelwedd fwy

Mae gan y prosiect ddwy elfen sylfaenol, gysylltiedig: Prosiect Ymchwil Ystrad Fflur, dan gyfarwyddyd yr Athro David Austin, sydd â’r nod o wella ein gwybodaeth am hanes tymor hir y safle ac am ei le yn y dirwedd; a Phrosiect Canolfan Ystrad Fflur, sy’n ceisio adfer a datblygu cyfres o adeiladau hanesyddol rhestredig o’r enw Mynachlog Fawr, a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth ym mis Awst 2016 ac sy’n sefyll i’r de o heneb Cadw.

Saif adfeilion yr Abaty ychydig i’r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron yng Ngheredigion, ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru. Cod post: SY25 6ES. Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans: SN 7467 6569. Prif nodau’r wefan hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd Prosiect Ystrad Fflur, o safbwynt ymchwil a’r gwaith o ddatblygu’r ganolfan, a’ch cynorthwyo i fwynhau wrth ymweld ag Ystrad Fflur a’i thirwedd.

Dewisodd y Sistersiaid y lle hwn i addoli a chynhemlu Duw oherwydd ei unigrwydd mewn dyffryn caeëdig hardd ym mhlyg y mynyddoedd. Ymddengys hefyd iddo fod yn ddarn hynod sanctaidd o dirwedd sydd, ers yr Oes Efydd, yn fan sy’n ennyn parch neilltuol. Mae’n bosibl bod mynachlog yma hyd yn oed cyn cyfnod y Sistersiaid.
Golygfa o’r awyr (i gyfeiriad y dwyrain), a gofnodwyd gan Dr Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, o’r dyffryn ym Mynyddoedd Cambria lle cafodd yr Abaty ei adeiladu maes o law
Golygfa o’r awyr (i gyfeiriad y dwyrain), a gofnodwyd gan Dr Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, o’r dyffryn ym Mynyddoedd Cambria lle cafodd yr Abaty ei adeiladu maes o law
Cliciwch am ddelwedd fwy

Roedd yr urdd Sistersaidd yn gofyn i’r mynachod ddarparu ar gyfer eu ffordd o fyw trwy wneud gwaith o’u dwylo eu hunain ac roeddent yn ymhél ag adeiladu, ffermio, mwyngloddio, cloddio plwm a rheoli coetiroedd a dŵr, ond roedden nhw hefyd yn arddel y sgiliau tawelach o ysgrifennu a chopïo llawysgrifau.

Yn wir, gweithiwyd yma ar nifer fawr o destunau canolog diwylliant Cymru, yn grefyddol, yn hanesyddol ac yn llenyddol. Roedd y gwaith hwnnw’n cynnwys hanes cyntaf Cymru yn y Gymraeg, straeon y Mabinogion a barddoniaeth Gymreig. Honnir yn gryf fod y bardd enwocaf o holl feirdd oesoedd canol Cymru, Dafydd ap Gwilym, wedi byw, marw a chael ei gladdu yn y gymuned hon o fynachod.

Chwaraeodd yr Abaty ran hefyd mewn digwyddiadau mawr yn ymwneud ag annibyniaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol, a oedd â chysylltiadau â phobl bwysig, yn enwedig yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffudd) Tywysog y Deheubarth (de-orllewin Cymru), Llywelyn Fawr o Wynedd yn y Gogledd ac Owain Glyndŵr. Pan oedd Ystrad Fflur yn ei hanterth, byddai ymwelwyr wedi gweld adeiladau trawiadol a oedd yn adlewyrchu cyfoeth, arwyddocâd a grym yr Abaty.

Ar ôl i’r Abaty gael ei ddiddymu ym 1539 trowyd ei adfeilion yn blasty, ac yna ddiwedd y 18fed ganrif fe’u trowyd yn ffermdy, sef yr hyn a welwn heddiw.
Gellir parhau i weld effaith yr holl hanes hwn yn y dirwedd heddiw, ac mae’n werth archwilio’r dyffryn prydferth hwn a’i hanes. Dywed ymwelwyr fod hud arbennig yn perthyn i’r lle.

Hawlfraint y dudalen hon: © Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration