Y Dirwedd

Mae tirwedd hanesyddol Ystrad Fflur yn gaffaeliad mawr i dreftadaeth Cymru. Mae prosiect ymchwil cyfredol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi datguddio tystiolaeth helaeth o ran sut defnyddiwyd y tir gan yr Abaty mawr hwn ar un tro.

Ffotograff awyr o Droed y Rhiw a Phyllau Teifi (Toby Driver)

Mynyddoedd y Cambria wrth Byllau Teifi. Stociwyd y llynnoedd hyn gyda physgod gan yr Abaty ar un tro (Ffotograff: Toby Driver. Hawlfraint: CBHC)

Rheolir topograffi’r dirwedd o gwmpas Ystrad Fflur gan Fynyddoedd y Cambria Canolbarth Cymru. Gorweddai’r Abaty ei hun mewn dyffryn rhewlifol bach ar ochr orllewinol yr ucheldiroedd hyn ar ben gogleddol system afon Teifi, ar y pwynt lle mae’n llifo o’i tharddle ucheldirol ym Mhyllau Teifi ac yn cwympo i lawr gwastad y dyffryn. Wedyn, mae’r afon yn troi i gyfeiriad y de ac yn llifo trwy Gors Caron ar ei ffordd tua’r môr ym Mae Ceredigion yn Aberteifi.






Ffotograff awyr o Faes Llyn a Chors Caron (Toby Driver)

Y dirwedd arbenigol: mae fferm Maesllyn yn y blaendir ar ymyl Cors Caron gyda llethrau is Mynyddoedd y Cambria’n tresmasu i’r dde (Ffotograff: Toby Driver. Hawlfraint: CBHC)

Mae’r tir amaethyddol gorau ar lethrau is y bryniau ac uwchlaw gorlifdir yr afon mewn cilfachau cymharol fach a ddefnyddiwyd ar un tro fel tir âr, ond sydd bellach yn laswelltiroedd parhaol gan mwyaf. Roedd gwlyptiroedd y dyffryn, gan gynnwys ehangder mawr Cors Caron ei hun, yn cael eu defnyddio’n draddodiadol ar gyfer porfa, gwellt, pysgod, adar dŵr a mawn. Defnyddiwyd y mynyddoedd gyda’u heangderau helaeth eu hunain o gors yn draddodiadol ar gyfer porfa’r haf, wrth i’r llethrau mwy serth feddu ar goetiroedd collddail, gan ddarparu coed at ystod eang o ddibenion.







O ddogfennau sydd wedi goroesi sy’n dyddio i ddiwedd y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, gallwn greu map o ba mor helaeth oedd y tiroedd a roddodd yr Arglwydd Rhys a gwŷr pwerus eraill i’r Abad a’i gymuned o fynachod.

Rhannwyd y tiroedd yn unedau a adwaenwyd fel maenorau at ddibenion gweinyddol, ac i ddechrau, roeddent naill ai’n cael eu ffermio a’u defnyddio’n uniongyrchol gan yr Abaty neu’n cael eu gadael yn nwylo’u ffermwyr a’u harglwyddi blaenorol yn gyfnewid am rent arian. O’n hymchwil, ymddengys bod y rhan fwyaf o’r dirwedd hon wedi’i chadw gan ei defnyddwyr blaenorol. Yn nes ymlaen yn yr Oesoedd Canol, roedd yr holl dir hwn yn cael ei brydlesu am rent.



Y tir o gwmpas yr Abaty gyda’i ffermydd arbenigol sy’n creu’r cynnyrch angenrheidiol i gynnal y gymuned

Mewn ardal o gwmpas yr Abaty ei hun, fodd bynnag, ymddengys bod y dirwedd wedi’i rhannu’n ffermydd arbenigol, pob un yn canolbwyntio ar wneud cynhyrchion penodol y mae eu hangen gan y gymuned fawr yn yr Abaty ar gyfer ei fodolaeth ddyddiol. Felly, roedd yno ffermydd ar gyfer moch, ceffylau, cynnyrch llaeth, grawn (âr), ffrwythau, a gwartheg ar gyfer cig eidion ac i dynnu ceirt ac erydr. Yn ogystal, roedd ehangder mawr Cors Caron lle'r oedd digonedd o bysgod, adar dŵr ac adnoddau eraill i’w canfod. Roedd yno borfeydd ucheldir helaeth lle'r oedd preiddiau mawr o ddefaid, yr oedd cyfoeth mawr yr Abaty’n dibynnu arnynt, yn cael eu pori a’u rheoli. Ymhlith hyn, roedd y mynachod yn prynu technoleg newydd i gynorthwyo wrth gloddio metelau, fel plwm ac arian, o’r gwythiennau mawn cyfoethog ym Mynyddoedd y Cambria. Creodd y mynachod hefyd farchnad yn Ffair Rhos a phentref ym Mhontrhydfendigaid i letya gweithlu seciwlar yr Abaty.



Yr olygfa o system ffrwd yr Abaty ac Afon Glasffrwd yn Nyffryn Tawel  (David Austin)

Yr olygfa o system ffrwd yr Abaty ac Afon Glasffrwd yn Nyffryn Tawel (David Austin)

Elfen bwysig o’r dechnoleg newydd a gyflwynwyd i’r rhan hon o dirwedd Cymru oedd peirianneg dŵr. Yn wir, er mwyn gosod cynllun yr Abaty newydd, roedd rhaid i’r mynachod ddargyfeirio cwrs gwreiddiol Afon Glasffrwd yn y lle cyntaf a’i gosod mewn sianel artiffisial ar hyd ymyl Coedwig yr Abaty lle mae’n parhau i lifo heddiw. Yn ogystal, adeiladwyd argae ar draws yr afon hon yn uwch i fyny ganddynt er mwyn creu cyfres o byllau a sianelau neu ffrydiau dŵr nad oeddent yn bwydo Caeadle Mewnol yr Abaty. Fan hyn, roedd yn cael ei ddosbarthu trwy bibelli dŵr wedi’u leinio â cherrig i ddod â dŵr i’r Ysbyty, y Ceginau, y Ffreutur, Llety’r Abad, ac i mewn i’r draeniau a oedd yn golchi dŵr y toiledau yn ystafelloedd cysgu’r mynachod a dŵr gwastraff a storm arall i ffwrdd o bob cwr o’r Abaty. Roedd rhaid dylunio’r pibellau dŵr a’r draeniau hyn a’u gosod cyn i adeiladau’r Abaty ddechrau cael eu codi.


Cliciwch am ddelwedd fwy
Rheolwyd coedwig yr Abaty, sydd ychydig i gyfeiriad y de o’r caeadle’n ofalus ac yn gynaliadwy gan y mynachod. Torrwyd y coed ar lefel y tir fel prysgwydd yn llym yn eu tro er mwyn darparu darnau tal a chymharol denau o goed i’w defnyddio mewn ffensys neu i wneud dolenni ar gyfer offer neu i amaethu llysiau. Yn ogystal, roeddent yn torri tocbrennau ar frig prif foncyffion y coed i ddarparu polion mwy trwchus at ddefnydd adeiladu neu beiriannau. Yn y ddau achos, roedd y coed yn aildyfu’n naturiol ac roedd modd eu tocio eto pan oeddent wedi’u tyfu i’r maint angenrheidiol. Caniatawyd rhai coed i dyfu, yn ôl yr hyn oedd yn safonol, hyd nes iddynt aeddfedu’n llawn ac wedyn roeddent yn cael eu cwympo ar gyfer y pren mwy sylweddol oedd eu hangen i gario pwysau’r toeon trwm mewn adeiladau neu estyll ar gyfer lloriau a chelfi. Gellid gwneud pren o bob math yn siarcol i ysgrifennu neu i wresogi metel neu eu gwneud yn lludw er mwyn cynyddu ffrwythlondeb y pridd.

Cyflenwodd y coed hyn bŵer i aelwydydd a ffyrnau’r Abaty at ddibenion domestig, ac i’r gefeiliau ac er mwyn smeltio mwynau wedi’u chwarelu i dynnu plwm. Ffynhonnell tanwydd arall at y dibenion hynny oedd mawn a dorrwyd o’r corsydd yng Nghoed Dolgoed a Chors Caron. Torrwyd tyweirch mewn ffosydd dwfn ac yna cawsant eu pentyrru i sychu am hyd o amser cyn cael eu cludo i ble roedd arnynt eu hangen.

Adeiladwyd yr Abaty i bontio cyffordd dau lwybr hynafol yn rhedeg i gyfeiriad y dwyrain ar draws Mynyddoedd y Cambria ac i gyfeiriad y gorllewin tuag at arfordir Môr Iwerddon. Roedd y llwybrau ar draws y mynyddoedd hyn yn croesi canol Cymru, efallai o’r adegau cynhanesyddol cynharaf. Mae’r llwybr enwocaf o’r llwybrau hyn, Llwybr y Mynaich, yn dangos arwyddion clir o gael ei beiriannu gan y mynachod i alluogi ar gyfer ei ddefnyddio gan geffylau ac anifeiliaid heidio ac roedd yn rhedeg rhwng Ystrad Fflur a’i chwaer abaty yng Nghwmhir, i’r gogledd-ddwyrain o Raeadr. Mae dal modd cerdded ar hwn heddiw ac fel rhan o’r prosiect, bu’r Dr Sam Hurn a’i gydweithwyr yn marchogaeth arno ar gefn cobiau Cymreig, gan gymryd diwrnod cyfan i gwblhau’r daith.


Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration