Datblygiad y Prosiect

Dechreuodd y prosiect fel rhaglen ymchwil ac addysgu’r Adran Archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ar y pryd. Mae’r sefydliad hwn bellach wedi uno gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sydd bellach wedi mabwysiadu Ystrad Fflur fel Prosiect Strategol.

Ar ôl dau dymor rhagarweiniol ym 1999 a 2000, aeth elfennau maes y Prosiect Ymchwil i ddirymedd yn ystod yr achos o Glwy’r Traed a’r Genau yn 2001-2 a dim ond yn 2004 ailgydiwyd ym mhethau. Ers hynny, cafwyd gwaith parhaus gyda’r agwedd ganolog yn gloddiadau hyfforddiant israddedig bob haf.

Yn 2002, roedd modd dechrau ystyried y syniad o ganolfan ar adeiladau Mynachlog Fawr a chynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb fer. Yn 2006, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur i fynd ar drywydd y syniad o greu ‘Porth i hanes a thirweddau Ystrad Fflur a Mynyddoedd y Cambria’. Fel Ymddiriedolaeth Diogelu Adeiladau, mae’n elusen ac yn gwmni cyfyngedig.

Yn 2005 a 2006, gan weithio ar y cyd â chymuned leol Pontrhydfendigaid a chymuned bartner yn Kells, Swydd Kilkenny yng Ngweriniaeth Iwerddon, roedd y Prosiect yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd cerflunwaith mawr a gynhaliwyd yn Ystrad Fflur yn ystod y cloddiadau ac yn Kells ar safle Priordy Awstinaidd unigryw, caerog. Ariannwyd yr arddangosfeydd gan raglen gydrhanbarthol (InterReg) yr UE ac roedd yn golygu ymweliadau cyfnewid rhwng y cymunedau. Tynnwyd yr arlunwyr oedd ynghlwm o blith y cerflunwyr gorau yng Nghymru ac Iwerddon ac mae sawl un wedi dangos yn y Venice Biennale.

Yn 2006, darparodd prosiect treftadaeth arall a ariannwyd gan InterReg ac a gynhelir gan Gyngor Sir Ceredigion, Ysbryd y Mwynwyr, grant i helpu codi proffil ein gwaith ar fwynglawdd plwm yr Abaty ychydig tua’r gogledd o’r caeadle ym Mron y Berllan. Mae prosiect Ysbryd y Mwynwyr wedi arwain at raglen barhaus sy’n cyflwyno’r hanes ac sy’n diogelu gweddillion archeolegol y diwydiannau echdynnu metel trwm pwysig ym Mynyddoedd y Cambria. Deilliodd un astudiaeth PhD gan David Sables o PCDDS o ddiddordeb y Prosiect yn y tirweddau mwyngloddio.

Cefnogwyd amryw agweddau ar y gwaith a gynhaliwyd ar Brosiect Ystrad Fflur yn 2007-8, gan gynnwys creu’r wefan wreiddiol, gan grant oddi wrth Gronfa Datblygu Gwybodaeth (HE-08-FSP-1001) Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r nod o fynd ar drywydd gallu ymchwil a datblygu yn y Sector Amgylchedd Treftadaeth a Thirwedd Hanesyddol.

Yn yr un cyfnod hwn, darparodd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yr arian am swydd cynorthwyo ymchwil i alluogi ar gyfer mapio’r tiroedd ym meddiant Ystrad Fflur, gan dynnu’n fawr ar yr arolygon helaeth o’r ystadau mawrion oedd wedi cael hen ddeiliadaethau’r Abaty yn fuan ar ôl y Diddymiad. Cynhaliwyd y gwaith hwn gan Dr Jemma Bezant, un o ddau gyd-gyfarwyddwyr y Prosiect Ymchwil.

Yn 2008, gyda chymorth grantiau gan Gyngor Sir Ceredigion a’r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, cafodd yr Ymddiriedolaeth adroddiad Arfarnu Dewisiadau cyntaf a gynhaliwyd gan benseiri Acanthus Holden. Roedd hyn ar y cyd gyda chynnig o bartneriaeth gan gwmni menter breifat. Fodd bynnag, methodd hyn ar ddiwedd y flwyddyn honno yn ystod argyfwng y banciau. Wedyn, bu’n anodd dod o hyd i ffordd ymlaen, ond yn y pen draw, yn dilyn diddordeb a chefnogaeth ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ac ailfodelu’r brifysgol mae cynllun arall yn y sector cyhoeddus yn gyfan gwbl, wedi dod i’r fei.

Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd y gwaith cloddio a gwaith maes i fynd rhagddo’n gyflym gyda’r ddau brif amcan ymchwil o sefydlu hyd a lled caeadleoedd yr Abaty a’u cynnwys pensaernïol ar yr un llaw, a gwybod safon y goroesiad archeolegol. O gofio hyn, cynhaliwyd nifer o arolygon manwl a nifer o gloddiadau prawf bach hefyd. Erbyn 2008, roedd Quentin Drew, cydgyfarwyddwr arall y Prosiect Ymchwil, yn cynnal cloddiad mwy helaeth ar y prif borth rhwng y Caeadleoedd Mewnol ac Allanol. Mae hyn bellach wedi dod yn brif ffocws i’n hymdrechion i gadarnhau ansawdd stratigraffig goroesiad y gwelsom ei fod yn annisgwyl o wych.

Yn 2011-13, cafodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant grant o £177,136 i gefnogi Prosiect Twristiaeth Tirwedd Treftadaeth Ystrad Fflur. Daeth y grant o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig dan lif ariannu Echel 3: Gwella safon bywyd mewn ardaloedd gwledig , mesur 323 Cadwraeth ac uwchraddio’r dreftadaeth wledig. Cyflogwyd rheolwr prosiect, sef Martin Locock, gyda’r arian i weithio gyda chymunedau a busnesau i adeiladu ar y rhaglen ymchwil a chefnogi’r gwaith o ehangu’r rhaglen gloddio i ddod yn Gloddiad Cenedlaethol Cymru. Mae wedi gwella asedau twristiaeth a threftadaeth trwy ddehongli a marchnata.

Mae’r Prosiect yn parhau i fynd ar drywydd ei ddau brif amcan, gyda Cham 2 y Prosiect Ymchwil a’r cais am grantiau i gaffael, cadw a datblygu’r Ganolfan.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration