Archaeoleg a Hanes y Dirwedd Hanesyddol Ehangach

Dyma ardal yng Nghanolbarth Cymru o dros 400 cilometr sgwâr a oedd yn cynnwys ystadau’r Abaty. Mae ein diddordeb pennaf yn nhir yr Abaty ei hun, ond mae’r ardal hefyd yn cynnwys tiriogaethau’r perchnogion seciwlar a’r tenantiaid ac mae’r rhain yn cael eu hastudio hefyd i ddarparu cyd-destun cyfoes ar gyfer yr astudiaeth o’r dirwedd.

Un o’r tasgau cyntaf fu creu cronfa ddata mapio GIS sy’n cynnwys gwybodaeth am leoliad penodol y tiroedd ym meddiant yr Abaty, o’r siarteri cychwynnol a’r dogfennau rheolaeth ôl-ganoloesol o’r ystadau mawr olynol, gan gynnwys mapiau cynnar. Mae hon yn dirwedd helaeth ac yng Ngham 1, y tu hwnt i’r mapio bras, rydym ond wedi bod yn gallu samplo rhai agweddau ar yr hyn sydd wedi goroesi, sy’n helaeth.

Bydd y rhan hon o’n prosiect yn edrych ar dirweddau ehangach a chraidd Ystrad Fflur mewn ymgais i wella’r naratif holistaidd a thymor hir sydd cyn bwysiced yn hanesyddol ac o ran rheolaeth a defnydd cynaliadwy i’r dyfodol. Mewn un ystyr, mae hwn yn gyflawniad mawr ac uchelgeisiol, ond gyda samplo gofalus, eir i’r afael â rhai materion allweddol am hanes a datblygiad tirweddau ucheldir Cymru yn ein strategaethau i’r dyfodol yn yr astudiaeth o’r Dirwedd Hanesyddol Ehangach.

Un o’r prif gysyniadau wrth astudio’r dirwedd hon yw’r un ‘ffermydd hynafol’, y canolfannau amaethyddiaeth ar dir gorau lloriau’r dyffrynnoedd a’r llethrau is. Yn ein hôl ddadansoddiadau cynnar, cynigiwyd gennym fod y dirwedd wasgaredig yn ei hanfod hon yn un o sefydlogrwydd mawr ers yr 800 mlynedd diwethaf o leiaf. Mae’r graddau yr ymgorfforwyd y ffermydd hynafol hyn yn y sefydliad Sistersaidd clasurol o ystadau i unedau a elwir yn faenorau’n destun dadl ac astudiaeth. Cymerwyd gwahanol ddulliau mewn dwy astudiaeth achos penodol yn y prosiect. Yr un cyntaf yw ôl-ddadansoddiad o strwythur maenor gyfan oedd yn hysbys o ddogfennau diweddarach fel Blaenaeron lle ceir arwydd cryf iddo gynnwys gan mwyaf ffermydd hynafol oedd eisoes yn bodoli gan denantiaid dan systemau Cymreig o roi daliad cymudedig i rent yn gynnar iawn. Yr ail yw astudiaeth archaeolegol o’r hyn sy’n edrych fel canolfan maenor yn Swyddffynnon, ar ochr orllewinol Cors Caron.

Agwedd bwysig ar y tirweddau hyn yw’r rhwydwaith o ffyrdd a thraciau sy’n cyfuno popeth. Mae hyn wedi’i gysylltu yn y gorffennol â syniadau o bererindod a chyda’r system ôl-ganoloesol o yrru da byw. Mae hi bellach yn glir fod caeadle Ystrad Fflur wedi’i ddylunio’n ofalus i bontio cyffordd dau drac, hynafol o bosibl, sy’n croesi Mynyddoedd y Cambria o’r dwyrain i’r gorllewin. Un ohonynt yw Llwybr y Mynaich sy’n dod o gyfeiriad Rhaeadr ac Abaty Cwmhir ac mae’r Athro Andrew Fleming wedi bod yn astudio’i gwrs ers rhai blynyddoedd gyda dau gyhoeddiad pwysig yn y cyfnodolyn Landscapes.

Mae prosiect ailadeiladu tirweddau’r Oesoedd Canol ac yn nes ymlaen wedi’i ddatblygu’n helaeth, ond nid yw’r dyhead i edrych hefyd ar ragflaenwyr y byd hwn mor bell ymlaen. Mae’r Oesoedd Tywyll yn parhau’n gyndyn o dywyll, ond mae’n debygol bod y ffermydd hynafol a ddogfennwyd yn siarteri’r 12fed ganrif wedi bodoli ers cwpl o ganrifoedd o leiaf os nad cyn hynny. Yr hyn sydd wedi’i ddeall tipyn yn well yw’r cynhanes diweddarach gyda sawl safle lleol a gwnaed darn pwysig o waith gan Catriona Gibson ar ymyl gogledd-orllewinol Cors Caron, ger Swyddffynnon, lle cloddiwyd mwnt wedi’i losgi a rhan o gylch cutiau.

Ffotograff o’r awyr o Lanllyr

Elfen bwysig o’r astudiaeth o dirweddau Ystrad Fflur fu’r ffotograff o’r awyr a wnaed gan Toby Driver o CBHC. Mae wedi bod yn hedfan dros safle Ystrad Fflur ac wedi bod yn tynnu ffotograffau ohono a’i dirweddau cysylltiedig ers nifer o flynyddoedd, fel rhan o’i gyfraniad i’r bartneriaeth ymchwil. Mae’r delweddau wedi datgelu nifer fawr o safleoedd newydd, ond hyd yn oed yn bwysicach na hynny, wedi ychwanegu dealltwriaeth newydd i safleoedd sydd eisoes yn hysbys ac wedi dangos hefyd y cysylltiadau holistaidd sy’n creu’r dirwedd gymhleth hon.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration