Archaeoleg a Hanes y Caeadle a’r Cyffiniau

Y lleoliad topograffig ac amgylcheddol: Mae hon yn dirwedd ucheldir glasurol gydag anheddiad a ffermio tymor hir ar loriau is y dyffryn uwchlaw’r gorlifdir ac ar lethrau arafach ardaloedd y mynydd. Rheolir y gorlifdir ar y pen gogleddol hwn o Afon Teifi gan gors ddyrchafedig syfrdanol Cors Caron ac mae ffermydd yn bodoli mewn cilfachau o dir da. Mae ardaloedd y mynyddoedd, ar eu mwyaf anghysbell yn parhau’n rhostir agored, ond yn hanesyddol fe’u tresmaswyd gan ffermydd yn ystod yr oes fodern. Methodd llawer o’r rhain yn nirwasgiadau amaethyddol y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif gyda’r Comisiwn Coedwigaeth yn cymryd rhywfaint o’u tir ar gyfer coedwig gonifferaidd yn y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf.

Y Cyffiniau: Mae’r cyffiniau’n cynnwys arwynebedd o ryw 2 gilometr sgwâr a ddiffiniwyd gan ffiniau’r caeadle a’r tir y tu hwnt a ail-ffurfiwyd gan yr Abaty fel tiriogaeth o ffermydd arbenigol a pharthau cynhyrchu i ddarparu ar gyfer eu hanghenion bwyta uniongyrchol eu hunain. Dyma lle ymddengys i’r dirwedd gael ei newid yn y ffordd fwyaf radical gan y Sistersiaid oherwydd dyluniwyd ac adeiladwyd eu gweithrediadau ganddynt yn Ystrad Fflur.

Caeadle ac adeiladau’r Abaty: Prif amcan y gwaith archeolegol yng Ngham 1 oedd penderfynu ar hyd a lled Caeadle gwreiddiol yr Abaty ac i benderfynu ar ansawdd y goroesiad archeolegol lle mae ychydig iawn sydd wedi goroesi uwchlaw’r tir. Rydym wedi canfod bod hyd a lled yr Abaty’n eithriadol o fawr, oddeutu 45 hectar a bod cryn dipyn o weddillion caeau wedi goroesi yn y caeadle a’i gyffiniau. Rydym yn siŵr fod yna raniad arferol rhwng Caeadleoedd Mewnol ac Allanol gyda’r prif adeiladau o garreg yn yr un blaenorol, fel a ddatgelwyd trwy’r geoffiseg, yr arolwg pridd a’r gwaith cloddio.

Y plas ôl-ganoloesol a’i dirweddau: Yn dilyn y Diddymiad ym 1539, pasiwyd safle’r Abaty a’i ystadau i’r teulu Devereux yn y lle cyntaf. Wedyn, gwasgarwyd y rhain yn y degawdau nesaf i nifer o hen deuluoedd bonedd Cymreig ac i nifer fawr o fewnfudwyr, y rhai mwyaf nodedig oedd y teulu Stedman. Erbyn 1567, roeddent yn berchen ar safle’r Abaty ac wedyn aethant ati i gaffael amrywiaeth o hen faenorau’r Abaty. Y rhai mwyaf nodedig ymhlith y teuluoedd hŷn oedd teulu Powell o Nanteos a’r teulu Vaughan o Drawscoed a oedd hefyd yn amlwg yn hanes Ystrad Fflur. Astudiodd y Prosiect yr adeiladau, y tirweddau a ddyluniwyd ac eiddo’r ystadau gwych hyn ac ystyriwyd hefyd hanes mwy diweddar eu dirywiad a’r twf yn y ffermydd rhyddfreiniol llai sy’n bodoli heddiw.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration