Y Cyffiniau

Mae’r cyffiniau’n cynnwys arwynebedd o ryw 2 gilometr sgwâr a ddiffiniwyd gan ffiniau’r caeadle a’r tir tu hwnt, a ailffurfiwyd gan yr Abaty fel tiriogaeth o ffermydd arbenigol a pharthau cynhyrchu i ddarparu ar gyfer eu hanghenion bwyta uniongyrchol eu hunain. Ymddengys mai dyma lle mae’r dirwedd wedi’i newid yn y ffordd fwyaf radical gan y Sistersiaid wrth iddynt ddylunio ac adeiladu eu gweithrediadau yn Ystrad Fflur.

Mae’r Prosiect wedi dechrau gweithio ar y diriogaeth hon, gan edrych ar y systemau rheoli dŵr sy’n draenio ardal y caeadle ac sy’n cyflwyno cyflenwadau ffres i’r Abaty ei hun yn ogystal â darparu pŵer i’r melinau. Mae arolwg gan Louise Barker o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a chan bobl eraill wedi dangos fod y system ddŵr wedi ymgorffori ffynnon sanctaidd ar ei ben.

Rydym wedi edrych yn agos hefyd ar Goedwig yr Abaty ac mae’r arolwg fan hyn a gynhaliwyd gan Louise Barker yn dangos cymhlethdod mawr o nodweddion cloddwaith. Ar y cyd â’r ymchwil ddogfennol ac ecolegol a gynhaliwyd gan Katie Fretwell, mae gennym bellach stori gymhleth o ddefnydd tir tymor hir ar ymylon deheuol caeadle’r Abaty.

Yn y coetir hwn, wedi’i ddiogelu fel SoDdGA a Phlanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol, mae gweddillion yr hyn y cymerwn mai odyn mawr iawn ydyw ond rydym yn dal i fod ychydig yn ansicr, er gwaethaf cloddiad rhagarweiniol, o ran beth roedd yn ei gynhyrchu.

Roedd ardal heb goed gerllaw hefyd, a gyflwynodd, o’i chloddio, dystiolaeth o glai crochenydd da o’r clai clogfaen gwaelodol, gan ddefnyddio tanc gwaddodi. Ychydig ymhellach i ffwrdd mae’r cloddwaith,a gloddiwyd yn rhannol gennym, o adeilad gwerinol oesoedd canol bach o fath sy’n adnabyddus yn ardaloedd ucheldir Cymru.

Ar yr ochr gyferbyn i’r dyffryn mae gweddillion helaeth mwynglawdd metel, y mae’n sicr y gall rhywfaint ohono gael ei adnabod fel ardaloedd echdynnu a phrosesu Mwynglawdd Abbey Consols o’r 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae llinell o siafftiau, yn agos at adfeilion ffermdy Bron y Berllan, ynghyd â’u tomenni gwastraff, wedi bod yn destun arolygon a chloddio gan David Sables y gellir eu dyddio o bosibl i’r oesoedd canol neu’n fuan ar ôl yr oesoedd canol. Mae’n hysbys i’r Abaty fwyngloddio am blwm ac arian.

Ymhellach i ffwrdd cafwyd astudiaeth o un o’r ffermiau tiriogaeth, Henfynachlog, gan Jemma Bezant, ac o fferm ddefaid yr Abaty a ffermydd cyfoes a diweddarach eraill yn Troed y Rhiw gan Andrew Fleming a Louise Barker o CBHC.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration