Cyd-destun Hanesyddol Cymru a’r Byd Ehangach

Mae ein hymchwil yn ceisio gosod yr Abaty, y fynachaeth a’r urdd Sistersaidd yng nghyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd ehangach Cymru ac Ewrop. Mae haneswyr wedi sylwi ers cryn amser y ffafriaeth gref o blaid yr urdd Sistersaidd ymhlith tywysogion brodorol Cymru a’r uchelwyr yn eu gweithredoedd o roi nawdd mynachaidd. Yn aml iawn, priodolir hyn i deimladau ar gyfer yr eglwys ‘Geltaidd’ newydd ei darostwng fel y’i gelwir gyda’i thraddodiadau mynachaidd ac asgetigiaeth y gellir teimlo bod y Sistersiaid wedi’u hetifeddu. Fodd bynnag, yn Ystrad Fflur, rydym wedi awgrymu y gallai fod yn fwy na hyn ac y gallai cymhlyg mor fawr, gyda thiroedd mor helaeth fod wedi cael rôl ganolog mewn uchelgais i greu gwladwriaeth Gymreig yng nghysgod yr ymerodraeth Seisnig, Angevin.

Fel gyda llawer o fynachlogydd Cymru, ychydig iawn o ddogfennau cyfoes sydd wedi goroesi lle gallwn ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig o’r fath fwriad. Fodd bynnag, ymddengys bod un o fersiynau Brut y Tywysogion wedi’i ysgrifennu yn Ystrad Fflur fel parhad prosiect a ddechreuwyd yn y fynachlog esgobol Geltaidd gerllaw yn Llanbadarn Fawr. Mae hyn yn awgrymog yn ei hun. Rydym yn ffodus hefyd o gael siarteri’r sefydliad, a olygwyd yn ddiweddar gan Huw Pryce yn ei gyfrol The Acts of the Princes, ac mae’r dadansoddiad o’r rhain yn awgrymu hwyrach na osododd y Sistersiaid eu system Burgundy clasurol o faenorau tiriogaeth ar eu daliadaethau, ond yn hytrach addaswyd y deiliadaethau arferol Cymreig, gan dalu roi taliad cymudedig traddodiadol i mewn i renti o’r cychwyn o fewn strwythur maenorau gweinyddol mwy llac.

Mae hyn yn awgrymog hefyd, fel y mae dau ddigwyddiad ar ddechrau’r 13eg ganrif. I ddechrau, gorchmynnodd y Brenin John yn dra eithriadol yn fuan iawn ar ôl i’r Abaty gael ei gysegru ar ei safle newydd ym 1201 fod y lle’n cael ei gau fel petai’n rhyw fath o fygythiad i lywodraeth penarglwyddiaeth ffiwdal Lloegr dros Gymru. Yna, ym 1238, dewisodd Llywelyn ap Iorwerth, Tywysog Gwynedd a Chymru, yr Abaty fel lleoliad ar gyfer cyfarfod o’r holl bobl hynny dan ei awdurdod yn Pura Wallia gyda’r bwriad o sicrhau olyniaeth i’w fab, Dafydd, gael ei holl rymoedd o fewn gwladwriaeth gychwynnol Cymru. Unwaith eto, ymddengys i’r ffaith iddo ddewis Ystrad Fflur ac nid un o’i sefydliadau eglwysig ei hun yng Ngwynedd fod yn arwyddocaol.

Yn nes ymlaen yn yr un ganrif, roedd Ystrad Fflur yn wrthrych sylw arbennig yn ystod y rhyfeloedd Edwardaidd ac fe’i llosgwyd ym 1281, yn yr un flwyddyn ag y rhannodd Cytundeb Rhuddlan diroedd ac awdurdod y tywysogion brodorol olaf i goron Lloegr. Yna, ym mlynyddoedd cynnar y 15fed ganrif, cefnogodd mynachod Ystrad Fflur yn gryf ymgais Owain Glyndŵr i atgyfodi’r uchelgais i wladwriaeth a Thywysogaeth Cymru. Y pris a dalwyd am hyn, fel y mae gwaith Jonathan Riley wedi dangos, yw bod didoliad sylweddol o fyddin Lloegr oedd yn mynd ar drywydd Glyndŵr wedi’u lletya yn yr Abaty dair gwaith, gan halogi a dinistrio llawer ohono.

NI wellodd yr Abaty fyth o’r profiad hwn, ond ceir corff helaeth o ddogfennau o’r ystadau seciwlar mawrion a gymerodd dros diroedd yr Abaty adeg y Diddymiad, ac mae’r rhain yn dangos sut roedd y tiroedd mynachaidd yn cael eu rheoli yn ei flynyddoedd diwethaf.

Er gwaetha’r dirywiad araf a chau’r abaty yn y pen draw, nid oes amheuaeth fod Ystrad Fflur wedi cadw ei le yn hunaniaeth genedlaethol Cymru hyd at heddiw. Nid yw’n cael ei adnabod yn ‘Abaty San Steffan Cymru’ am ddim rheswm ac ymddengys bod gwraidd y teimlad hwn yn sefyll gyda’r bwriad y tu cefn i’w greadigaeth.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr ym Mhrosiect Monastic Wales i fynd ar drywydd y rhain a themâu cysylltiedig eraill yn rôl Ystrad Fflur yng Nghymru ac Ewrop.

David Austin, Hydref 2013

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration