Cofeb angladdol sydd wedi’i chysegru i Avarina ac Elizabeth Stedman

Y Plas a’i dirwedd

Teulu Stedman

Y teulu Stedman ddaeth i fyw ac i berchen ar hen safle Ystrad Fflur a’i gaeadle yn yr 16eg ganrif yn y pen draw, mwy na thebyg mor gynnar â 1565 os nad cyn hynny.

Mae Gerald Morgan wrthi’n gweithio, fel rhan o Brosiect Ystrad Fflur, ar eu hanes ac ar y dogfennau sy’n ymwneud â’u tirddaliadaethau a’u gweinyddiaeth o’r ystâd. Roedd y teulu ym meddiant y tir tan ganol y 18fed ganrif, pan gafodd ei basio, trwy briodas i deulu Powell o Nanteos.

Yr Adeiladau sydd wedi Goroesi

Tŷ neu blas y teulu Stedman yn Ystrad Fflur yw ffermdy presennol Mynachlog Fawr, sef adeilad Gradd II rhestredig, a ddisgrifiwyd yn y lle cyntaf ar engrafiad Buck o 1741. Mae modd gweld trefniant yr adeiladau, amgaeadau, gerddi, rhodfa ac elfennau eraill preswylfa’r bonedd ar fap o’r ystâd o 1765 pan oedd yn ei gyfnod olaf o ddefnydd fel plas. Ym 1778, cafodd ei brydlesu fel tŷ fferm tenant. O’r fan honno ymlaen, datblygodd yn ffermdy, sydd wedi bod yn nwylo’r teulu Arch o 1850 hyd heddiw.

Manylder yn dangos adfeilion yr Abaty a Phlas Stedman a gymerwyd o fap ystâd Nanteos (Powell) o 1765

Yr hyn a ddengys ym 1765 yw’r tŷ ei hun, adeilad allan ar wahân drws nesaf i gyfeiriad y de. Y brif gegin oedd hon mwy na thebyg, gan fod lle tân a ffwrn enfawr o garreg yn dal i fod yno.

I gyfeiriad y gorllewin mae dau glos a gardd sgwâr, ar bennau eraill y rheiny mae dau adeilad, un ysgubor dyrnu fawr (sy’n parhau i fodoli) o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif a’r llall (a dynnwyd i lawr yn oddeutu 1850 ar gyfer y ffordd fodern) yn borth ac yn adeilad allan mawr. Mae’r cymhlyg presennol o adeiladau fferm, sy’n cadw’r ysgubor dyrnu, yn gymhlyg buarth gwell nodweddiadol o adeilad carreg.

Tirwedd bonedd y plas

Mae hyn wedi bod yn destun astudiaeth ddiweddar gan Katie Fretwell (a ariannwyd gan grant y Gronfa Datblygu Gwybodaeth: HE-08-FSP-1001), ond ychydig y gellir ei ychwanegu at y cynllun cyffredinol fel a ddangoswyd ym 1765, ar wahân i’r disgrifiad o’r tŷ, yr ardd a rhan o’r porth ar yr engrafiad Buck o adfeilion yr Abaty ym 1741. Dengys y porth hefyd ar ddyfrlliw gan y Parchedig John Parker, oddeutu 1840-50 ychydig cyn iddo gael ei dynnu i lawr.

Tirwedd yr ystâd

Ceir hefyd gorff mawr iawn o ddogfennau o’r ystadau a gymerodd dros diroedd yr Abaty ar ôl y Diddymiad ym 1539, gan gynnwys prydlesi i ffermwyr a wnaed gan y mynachod eu hunain yn negawdau olaf bodolaeth y fynachlog. Mae’r corff hwn o ddogfennau ôl-ganoloesol, sy’n cynnwys nifer fawr o fapiau ystâd o’r 18fed ganrif, yn ein helpu i astudio rôl yr ystadau mawrion, gan gynnwys rhai’r teulu Vaughan o Drawscoed, y teulu Powell o Nanteos, a’r teulu Stedman y cafodd eu plasty ei adeiladu o hen ffreutur yr Abaty.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration