Ymchwil cyn 1999...

... a chyhoeddiadau perthnasol eraill y tu allan i’r Prosiect

Mae Ystrad Fflur wedi bod yn ffocws diddordeb Hynafiaethol ers yr 16eg ganrif, pan ymwelodd John Leland, Hynafiaethwr y Brenin â’r safle, ychydig cyn i Ddiddymiad 1539 ei gau i lawr. Yn yr un modd ag y mae amryw is-ddisgyblaethau ymchwil hanesyddol wedi dod i’r amlwg yn ystod y 19eg ganrif, mae Ystrad Fflur wedi ymddangos mewn testunau o wahanol fathau gan fynd i’r afael â gwahanol agweddau ar ymgysylltiad y lle â digwyddiadau’r gorffennol.

O ganlyniad, mae Ystrad Fflur a’i hanes wedi ymddangos mewn ystod o gyhoeddiadau mewn nifer o wahanol drafodaethau, yn enwedig:
archaeoleg a phensaernïaeth, er enghraifft arfarniad pwysig David Robinson o’r holl bensaernïaeth ac archaeoleg Sistersaidd yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2008;
daearyddiaeth hanesyddol ac economaidd ystadau Ystrad Fflur, yn enwedig gwaith David Williams;
hanesion cyffredinol ac eglwysig Cymru, lle mae rôl Ystrad Fflur wrth greu hunaniaeth wleidyddol Cymru’n cael ei phwysleisio’n aml;
hanes diwylliannol Cymru lle mae rôl Ystrad Fflur fel cychwynnwr a diogelwr Cymraeg ysgrifenedig wedi’i gofnodi’n dda;
hanes lleol, o’r hanesion sirol ffurfiol i’r adroddiadau llai ffurfiol o bobl a digwyddiadau sy’n bwysig i gymunedau lleol..

I gael rhagor o fanylion a llyfryddiaeth, cliciwch fan hyn.

Un haen allweddol fu hynafiaeth ac archaeoleg gyda Chymdeithas Hynafiaethau Cymru, o’i dechreuad ym 1849, yn gosod Ystrad Fflur yn y radd gyntaf o gofebion Cymru gydag ymweliadau a chyhoeddiadau. Cloddiodd Stephen Williams y safle ar ddiwedd y 1880au a chyhoeddodd ei ganfyddiadau’n gyflym iawn ym 1891. Ers hynny, cafwyd rhagor o ymyriadau graddfa fach, ond dim ymgyrch cydlynol hyd nes i Brosiect Ystrad Fflur ddechrau ym 1999. Fodd bynnag, mae arweinlyfrau’r cofebion a luniwyd gyntaf gan y Swyddfa Gweithfeydd ac erbyn hyn gan Cadw, yn cynnig golwg bwysig i’r bensaernïaeth a ddatgelwyd yng nghloddiadau Williams yn ogystal â’r hanes.

Er gwaethaf goroesiad gwael y bensaernïaeth sydd ar ei thraed yn Ystrad Fflur, adferwyd digon yn y cloddiadau o’r 19eg ganrif i alluogi ar gyfer ailwneuthurio lluniadau a pheintiadau yn gywir iawn. Gellir dod o hyd i lawer o’r rhain yn yr arweinlyfrau. Mae llawer o’r gwaith hwn yn seiliedig ar astudiaeth gan Stuart Harrison ar ddechrau’r 1990au. Mae rhai o’r canlyniadau wedi ymddangos yn arfarniad pwysig David Robinson o’r holl bensaernïaeth ac archaeoleg Sistersaidd yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2008.

Haen allweddol arall fu daearyddiaeth hanesyddol ac economaidd ystadau Ystrad Fflur a ddogfennir gorau yn y cofnodion helaeth o’r ystadau a grëwyd yn fuan ar ôl y Diddymiad. Mae llawer i’w canfod yng Ngweithredoedd Trawscoed (Crosswood Deeds) sy’n cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn bennaf yn y gwaith hwn mae gwaith David Williams. Darparodd ei ysgolheictod sylfaen gadarn iawn i’r Prosiect.

Ceir corff sylweddol o gyfeiriadau hefyd at Ystrad Fflur yn hanesion cyffredinol ac eglwysig Cymru. Yn y gweithiau hyn, mae rôl Ystrad Fflur yn y brwydrau i sefydlu hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth i Gymru’n sylweddol, yn enwedig yn y ganrif cyn rhyfeloedd Edwardaidd diwedd y 13eg ganrif, rôl y ceisiodd barhau â hi ac sydd erbyn heddiw hyd yn oed â soniaredd cryf yn hanes Cymru ohono’i hun. Mae’r soniaredd hwn yn trosglwyddo i hanes diwylliannol Cymru lle mae enw da Ystrad Fflur fel creawdwr llawysgrifau yn y Gymraeg ac fel noddwr a diogelwr y beirdd yn ddiogel.


Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration