Prosiect Ymchwil Ystrad Fflur

Datblygwyd rhaglen ymchwil fawr, sy’n gosod Ystrad Fflur yn ei gyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a thirwedd, i gynnwys cyfnod bodolaeth yr Abaty, ei ragflaenwyr o ddiwedd Oes yr Haearn ymlaen a’i olynwyr hyd at heddiw. Mae hwn yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n ymhél ag archaeoleg, hanes, gwyddor amgylcheddol a’r celfyddydau. Mae wedi cynnwys nifer o sefydliadau gyda’n prif bartneriaid ymchwil strategol sef Prosiect Monastic Wales, Sculpture Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Rydym wedi gweithio’n agos hefyd gyda’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn sgil newidiadau yn y brifysgol, byddwn nawr yn ystyried ymchwil gymhwysol ym meysydd gweithgarwchCanolfan Ystrad Fflur.

Mae Cam 1 y Prosiect Ymchwil bellach wedi’i gwblhau a byddwn yn astudio ac yn dylunio Cam 2 yng ngoleuni’r holl ddatblygiadau ym Mhrosiect cyfan Ystrad Fflur. Bydd Cam 2 yn dechrau yn 2014.

Cydrannau Ymchwil

A. Dyluniad Ymchwil: Mae gan y Prosiect ddyluniad ymchwil lefel uchel glir sy’n gweithio’n thematig ar draws tri phrif gyfnod amser, y cyfan o fewn hanes naturiol cyffredinol yr Holosen:
Y cyfnod Celtaidd: o Oes yr Haearn oddeutu 500 C.C. i ddechrau’r 12fed ganrif O.C.
Yr Abaty yn yr Oesoedd Canol: o’i sefydlu ym 1164 i’r Diddymiad ym 1539
Yr Oes Fodern: o 1539 hyd heddiw

Mae’r Prosiect hefyd yn gweithio mewn tair prif raddfa o dirwedd a chamau hanesyddol (gweler isod):
Yr Abaty a’i Gyffiniau;
Y Dirwedd Hanesyddol Ehangach;
Cyd-destun Hanesyddol Cymru a’r Byd.

Dyfeisiwyd a thrafodwyd y Dyluniad Ymchwil hwn gyntaf yn 2006-7 yn dilyn rhywfaint o waith cychwynnol i benderfynu a oedd prosiect tymor hir yn hyfyw. Bydd y ddogfen hon yn cael ei diwygio fel rhan o ffurfio Cam 2.

B. Gwaith cyn 1999 a’r tu allan i’r prosiect: Bu Ystrad Fflur yn ffocws diddordeb Hynafiaethol ers yr 16eg ganrif, ond bu’n destun ymchwil benodol yn gymharol anaml, efallai oherwydd y diffyg dogfennau gweinyddol cyfoes o’r Abaty. Fodd bynnag, ar ddiwedd y 1880au, gwnaed gwaith cloddio ac astudio helaeth gan Stephen Williams a amlygodd weddillion yr Abaty y gellir eu gweld heddiw i bob pwrpas. Ychydig yn fwy sydd wedi’i wneud ar yr archaeoleg tan ddechrau’r Prosiect hwn.

Mae’r hyn sy’n goroesi nawr ar ffurf dogfennau a phensaernïaeth wedi ymddangos mewn nifer fach o astudiaethau cyffredinol bwysig mewn nifer o drafodaethau.

C. Allbynnau’r prosiect: Ceir nifer gynyddol o gyhoeddiadau ac allbynnau eraill o’r Prosiect. Yn ogystal â chyhoeddiadau academaidd, rhan bwysig o nodau’r Prosiect oedd cyfathrebu gyda’r cyhoedd trwy ystod o gyfryngau a ffurfiau creadigol.

D. Archaeoleg a Hanes Caeadle’r Abaty a’i Gyffiniau: Mae hyn yn cynnwys arwynebedd o ryw 2 gilometr sgwâr a ddiffiniwyd gan ffiniau’r caeadle a’r tir tu hwnt, a ail-ffurfiwyd gan yr Abaty fel tiriogaeth ffermydd arbenigol a pharthau cynhyrchu i ddarparu ar gyfer ei anghenion defnydd uniongyrchol ei hun. Rydym wedi sefydlu bod hyd a lled yr Abaty’n eithriadol o fawr, oddeutu 45 hectar a bod gweddillion caeau wedi goroesi yn y caeadle a’i gyffiniau.

E. Archaeoleg a Hanes y Dirwedd Hanesyddol Ehangach: Mae hon yn ardal o dros 400 cilometr sgwâr yng Nghanolbarth Cymru a oedd yn cynnwys ystadau’r Abaty. Mae ein diddordeb pennaf yn nhir yr Abaty ei hun, ond mae’r ardal hefyd yn cynnwys tiriogaethau perchnogion a thenantiaid seciwlar ac mae’r rhain yn cael eu hastudio hefyd i ddarparu cyd-destun cyfoes ar gyfer astudiaeth y dirwedd. Mae’n glir o’n gwaith Cam 1 fod goroesiad archaeolegol safleoedd cysylltiedig yn yr ardal hon yn helaeth.

F. Cyd-destun Hanesyddol Cymru a’r Byd: Mae hyn yn darparu’r cyd-destun gofodol ar gyfer rôl yr Abaty, mynachaeth a’r Urdd Sistersaidd mewn hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol. Yn yr ymchwil hon, gweithio gyda’n partneriaid agos ym Mhrosiect Monastic Wales.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration