Hanes byr o Ystrad Fflur


Sefydlwyd Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ym 1164 yn y lle cyntaf pan roddodd marchog Normanaidd, Robert Fitzstephen, diroedd yng nghanolbarth Ceredigion i fynachod Abaty Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin. Yn y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd y Normaniaid allan o Geredigion gan Rhys ap Gruffudd, Arglwydd Dinefwr a Thywysog y Deheubarth a ddaeth yn brif gymwynaswr ar yr Abaty. Credir bod yr Abaty wedi cael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn Henfynachlog , sydd heddiw’n fferm rhyw 2 gilometr i gyfeiriad y de-orllewin o’r safle presennol.

Ym 1184, ymddengys bod Rhys wedi cynyddu ei grantiau ac wedi annog y mynachod i adeiladu Abaty mwy o faint lle saif ei adfeilion heddiw. Ym 1201, fe’i cysegrwyd a sefydlodd enw da’n gyflym iawn iddo’i hun fel canolfan bywyd diwylliannol a gwleidyddol Gymreig, efallai dyma rywbeth yr oedd Rhys ei hun wedi’i fwriadu. Mae’n bosibl hefyd fod ei enw wedi’i adeiladu ar fynachlog gynharach, cyn-Normanaidd ar y safle.

Y 13eg ganrif oedd anterth yr Abaty ac ym 1238 defnyddiodd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), tywysog Gwynedd a Thywysog cyntaf Cymru, yr Abaty fel lleoliad ar gyfer cyfarfod pwysig a gynhaliwyd i atgyfnerthu ei awdurdod ef a’i fab dros dywysogion ac arglwyddi brodorol eraill Cymru.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd Cymru dan reolaeth Edward I o Loegr a phylodd dylanwad Ystrad Fflur. Fodd bynnag, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddiwedd y 14eg ganrif ac ar ddechrau’r 15fed ganrif, ymddengys bod mynachod yr Abaty wedi cefnogi’r gwrthryfel. O ganlyniad, lletywyd rhai o fyddin Lloegr yn yr Abaty ac fe’i difrodwyd yn helaeth. Ni wellodd fyth o’r sioc hon ac erbyn adeg y Diddymiad ym 1539, nid oedd llawer ar ôl ac roedd hyd yn oed hwnnw mewn cyflwr enbyd.

Ar ôl i’r Abaty gau, aeth y safle a’r hen diroedd i ddwylo teuluoedd y bonedd yn y pen draw, sef teulu’r Steadmans ac ymddengys iddynt greu plasty o weddillion Ffreutur yr Abaty. Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd yr ystâd yn nwylo’r teulu Powell o Nanteos.

Yn y 1880au, cloddiwyd safle’r hen Abaty gan Stephen Williams a’r hyn a ddatgelwyd yn sylweddol ganddo sydd bellach yng ngofal Cadw ac mae modd ymweld ag ef fel cofeb. Yn 2004, dechreuodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant brosiect tymor hir dan gyfarwyddiaeth yr Athro David Austin i ddeall mwy am yr Abaty a’i dirwedd hanesyddol. Mae cynnwys y dudalen we hon yn seiliedig ar y gwaith hwnnw.

Dyluniad y wefan gan Martin Crampin,     Datblygiad y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.

Administration